BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
METHOD:PUBLISH
CALSCALE:GREGORIAN
PRODID:-//WordPress - MECv6.5.5//EN
X-ORIGINAL-URL:https://clocaenog-rst.org/
X-WR-CALNAME:Clocaenog Red Squirrels Trust
X-WR-CALDESC:Protecting red squirrels in Clocaenog Forest
REFRESH-INTERVAL;VALUE=DURATION:PT1H
X-PUBLISHED-TTL:PT1H
X-MS-OLK-FORCEINSPECTOROPEN:TRUE
BEGIN:VEVENT
CLASS:PUBLIC
DTSTART;TZID=Europe/London:20250721T000000
DTEND;TZID=Europe/London:20250729T000000
DTSTAMP:20250710T000000
UID:MEC-78e092e6f3d8a7b10a82c6abd756d748@clocaenog-rst.org
CREATED:20250710
LAST-MODIFIED:20250711
PRIORITY:5
TRANSP:OPAQUE
SUMMARY:Arddangosfeydd Barddoniaeth yn yr Hen Lys Rhuthun
DESCRIPTION:Cadwraeth yn cwrdd â chreadigrwydd: defnyddio barddoniaeth i archwilio trafferthion ein gwiwerod coch\nMae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog wedi ymuno â’r eco-fardd, Diana Sanders i godi ymwybyddiaeth o drafferthion gwiwerod coch Clocaenog trwy gyfrwng barddoniaeth.\nDefnyddiwyd barddoniaeth ers tro byd ar gyfer gwrthsafiad, protest ac actifiaeth, ac nid yw eco-farddoniaeth yn eithriad. Mae eco-farddoniaeth yn defnyddio barddoniaeth fel math o actifiaeth amgylcheddol, i ymgysylltu â phryderon ecolegol ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth a gweithredu amgylcheddol.\nMae gwiwerod coch wedi’u dosbarthu fel rhywogaeth mewn perygl yn y DU ac maent yn brin yng Nghymru. Mae niferoedd gwiwerod coch wedi bod yn dirywio’n araf yn y DU ers i’r wiwer lwyd gael ei chyflwyno o Ogledd America ddiwedd y 1800au. Mae gwiwerod llwyd yn fwy na’r gwiwerod coch ac felly maent yn eu trechu am fwyd ac adnoddau. Maent hefyd yn gludwyr firws brech y wiwer, firws sy’n angheuol i’r gwiwerod coch.\nMae Caro Collingwood (Ceidwad Gwiwerod Coch Clocaenog) a Diana yn gobeithio y bydd rhai o’r cerddi hyn sy’n cyffwrdd â themâu llygredd sŵn, bregusrwydd y rhywogaeth trwy golli cynefinoedd, clefydau a drosglwyddir gan wiwerod llwyd, yr amgylchedd y mae’r gwiwerod yn byw ynddo ac arsylwadau o’r gwiwerod eu hunain yn helpu i godi ymwybyddiaeth o rai o’r problemau y mae gwiwerod coch yn eu hwynebu.\nBydd y cerddi hyn yn cael eu harddangos yn yr Hen Lys – Rhuthun o 21-28 Gorffennaf.\nGwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio i ddysgu am wiwerod coch, sut allwch chi gymryd rhan yng ngwaith yr ymddiriedolaeth ac i ddarllen rhywfaint o farddoniaeth o’r galon a ysgrifennwyd gan bobl a fynychodd weithdy ysgrifennu barddoniaeth ar ôl gwrando ar Caro yn siarad am wiwerod coch a’i gwaith gyda’r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.\n \n          \n
URL:https://clocaenog-rst.org/cy/events/arddangosfeydd-barddoniaeth-yn-yr-hen-lys-2/
CATEGORIES:Exhibition,North Wales,Red squirrels,Ruthin
END:VEVENT
END:VCALENDAR
