Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn fudiad gwirfoddol gyda’r diben o ddiogelu ac amddiffyn Gwiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog. Ymysg aelodau’r Ymddiriedolaeth mae trigolion yr ardal a’r fro. Prif bartner Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ydy Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli’r goedwig.
Dyma ein nod:
- Cydweithio fel grŵp cymunedol
- Gofalu nad oes unrhyw Wiwerod llwyd yn y goedwig fel bod modd i Wiwerod coch ffynnu yno
- Cydweithio gyda mudiadau partner ac unigolion allweddol i ddatblygu’r gwaith i amddiffyn Gwiwerod coch
- Rhannu’r buddion ynghlwm ag amddiffyn natur a threftadaeth gyda thrigolion yr ardal a’r gymuned ehangach. Codi ymwybyddiaeth ynghylch sefyllfa’r Gwiwerod coch
- Ennill cyllid ac adnoddau ynghyd â datblygu perthnasau er mwyn gofalu am ddyfodol hirdymor y Gwiwerod coch yn y goedwig.
- Cefnogi ymchwil gwyddonol / ecolegol, astudiaethau ac ymchwiliadau a fydd yn help i Wiwerod coch oroesi. At hyn, helpu i gynnal gwaith amddiffyn ehangach yn y goedwig.