Mae’r llun isod yn cynnig syniad ichi o sut y bu i wiwerod coch lwyddo yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Fel y gwelwch chi yng nghanlyniadau arolwg 2011/12 ni fu inni weld/dal unrhyw wiwer goch.
Coedwig Clocaenog
Coedwig Clocaenog
Mae’r goedwig rhwng 300 a 500m uwchben lefel y môr ac mae yng nghanol rhostiroedd a thir fferm i’r gogledd a gorllewin sy’n golygu ei fod yn ynys o fath. Mae’n debyg bod hyn yn ffactor manteisiol i’r gwiwerod coch gan y bu’r lleoliad yn rhwystr rhannol i atal gwiwerod llwyd rhag ymledu.
Bu i wiwerod coch gychwyn manteisio ar fwyd y coed aeddfed yn y 1950au. Mae’r goedwig yn cynnig ystod helaeth o ffynonellau bwyd drwy gydol y flwyddyn sy’n fuddiol dros ben i’r gwiwerod coch.
Er mai Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar y goedwig, Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ofalu amdani fel menter gymdeithasol.
Mae Coedwig Clocaenog yn gartref i boblogaeth fach o wiwerod coch sy’n flaenoriaeth uchel o ran sut caiff y goedwig ei rheoli. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hynod ofalus gyda’u Cynllun Rheoli’r Goedwig sy’n pennu pryd a lle gellir torri coed heb achosi niwed i unrhyw un o’r rhywogaethau gwarchodedig gan gynnwys y gwiwerod coch.
Mae’r Cynllun Rheoli’r Goedwig mewn grym i ofalu bod cyflenwad parhaus o fwyd, llochesi ac adnoddau drwy ystod helaeth o goed amrywiol o ran eu rhywogaeth a’u hoed. Mae’n cynnig cynefin priodol i’r boblogaeth fach o wiwerod coch yn ogystal â sicrhau bod y goedwig yn hyfyw yn economaidd.
Rydym wedi lleihau’r nifer o goed llydanddail fel derw a ffawydd er mwyn cael gwared ar ffynonellau bwyd y mae gwiwerod llwyd yn eu hoffi. Dengys astudiaeth ym 1996, blwyddyn dda o ran mes, y bu wiwerod llwyd yn manteisio’n sylweddol ar fes y coed ffawydd.
Wiwerod Coch yng Nghoedwig Clocaenog
Yn y 1990au roedd y gwiwerod coch ymhob cwr o’r goedwig ac yma oedd y boblogaeth fwyaf yng Nghymru nes y llwyddiant gyda gwiwerod coch ar Ynys Môn.
Mae’r nifer o befrwydd Sitka yn golygu bod y goedwig yn llai deniadol i wiwerod llwyd oherwydd bod yr hadau bach yn ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw fanteisio ar ddigon o egni o’r hadau. Mae gwiwerod coch, sy’n fwy o greaduriaid y coed na’r goresgynwyr Americanaidd yn fwy cymwys i fforio ar yr hadau llai hyn ynghyd â mannau lle mae pinwydd a sbriws Norwy. Mae’n bwysig gofalu bod cydbwysedd digonol er mwyn diogelu’r boblogaeth.
Buom wrthi’n astudio gwiwerod coch Clocaenog yn drylwyr. Bu i Dr Sarah Cartmel gynnal ymchwil ynghylch ecoleg y ddwy rywogaeth yn y 90au hwyr a defnyddiwyd yr ymchwil i wella dulliau rheoli’r goedwig i gefnogi gwiwerod coch. Yn anffodus, dydy rheoli’r coetir yn unig ddim yn ddigonol er mwyn diogelu’r boblogaeth. Mae gwiwerod llwyd yn parhau i ddod i’r goedwig gan gystadlu gyda’r gwiwerod coch am fwyd a lledaenu haint o bosib. Bu Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n rheoli gwiwerod llwyd ar hyd a lled y goedwig am flynyddoedd maith.
Er hynny, bu i amcangyfrifon o ran y boblogaeth a gwybodaeth am gipolygon awgrymu y bu i’r boblogaeth leihau’n sylweddol yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae hi’n anodd dros ben arolygu gwiwerod coch mewn ardaloedd tir uchel felly ni allwn fod yn sicr o hyn. Yn 2014, bu i’r prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy fynd ati i fonitro drwy ddefnyddio camerâu llwybr a blychau porthi am y tro cyntaf. Roedd y gwirfoddolwyr oedd yn gyfrifol am y camerâu hyn wedi cyffroi wrth iddyn nhw ganfod lluniau o’r gwiwerod coch ymhen mis.
Beth arall sydd yn y goedwig?
Adar
Mae yna fwncathod a gweilch gleision yn y goedwig ac fe welwn ni wyddweilch o bryd i’w gilydd hefyd. Rydym felly’n gosod y porthwyr i wiwerod mewn mannau lle mae’n anodd i ysglyfaethwyr yr awyr eu cyrraedd. Ymysg yr adar hynny sy’n ymweld â’r goedwig yn y gwanwyn mae’r telor y coed, y dryw wen, siff-saff ac aderyn coch y fflam. Ymysg ymwelwyr yr hydref mae’r bronrhuddyn y mynydd, caseg y ddrycin a’r asgell goch a mwy. Gallwn weld a chlywed adar y droell yn enwedig gyda’r nos pan fo nhw’n hela am wyfynod a thrychfilod eraill.
Ymysg yr adar eraill sy’n ymweld â’r goedwig drwy gydol y flwyddyn mae’r dylluan frech, y groesbig a nifer o adar cân. Mae rhai o’r adar hynny’n nythu yno.
Mamaliaid
Ar wahân i’r gwiwerod coch, mae’r goedwig yn gartref i rywogaeth fregus arall, sef y pathew. Mae hefyd rhywogaethau pwysig eraill fel llygoden y dŵr a nifer o rywogaethau ystlumod. Fe welwn ni foch daear, llwynogod ac ysgyfarnogod ar ein camerâu o bryd i’w gilydd a bu inni weld bele’r coed unwaith hefyd.
Trychfilod
Mae’r goedwig yn gartref i sawl math o löynnod byw fel brithion y coed, ieir bach llygadog, mentyll cochion a’r brith perladeiniog bach a phrin. Mae yna hefyd gacwn a morgrug y coed.
Planhigion
Mae briallu a bwtsias y gog ar hyd y llwybrau drwy’r goedwig ac mae planhigion fel suran y coed, coed llus, rhedyn a mwsogl mewn mannau mwy cysgodol.
Ffyngau
Yn yr hydref, fe welwn amrywiaeth o ffyngau gan gynnwys ffyngau cyrn gwyn, amanita’r gwybed a’r corn carw melyn.
Bywyd gwyllt yn y goedwig
Cwestiynau Cyffredino
Mae yna sawl maes parcio yng Nghoedwig Clocaenog. Bod Petryal ydy un o’r rhai mwyaf poblogaidd.
Mae’n fan cychwyn delfrydol i gael blas ar yr ardal sylweddol hon o goetir, gweundir agored ac afonydd.
Roedd yr ardal hon yn rhan o Ystâd Efail y Rhidyll unwaith ac mae Bod Petryal wedi’i enwi ar ôl hen fwthyn y ciper.
Mae llwybr cerdded Tro’r Ciper yn eich tywys chi heibio coed conwydd hynaf y goedwig yn ogystal â heibio bwthyn y ciper.
Yng Nghoedwig Clocaenog mae ffyrdd coedwig ddistaw am filltiroedd felly mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer beicio gyda’r teulu. Mae llwybr beicio byr yn cychwyn o Fod Petryal.
Mae man picnic hefyd gyda meinciau o amgylch llyn sylweddol.
Mae yna nifer o lwybrau beicio a cherdded yn y goedwig.