Mae ffioedd aelodaeth yn gymorth i gynnal gwaith parhaus Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog. Mae’r cyllid yn fodd inni dalu am gyfarpar newydd i allu monitro’r gwiwerod coch.
Ymaelodi
Mae ffioedd aelodaeth yn gymorth i gynnal gwaith parhaus Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog. Mae’r cyllid yn fodd inni dalu am gyfarpar newydd i allu monitro’r gwiwerod coch.
Buddion Ymaelodi
- Newyddlenni gan Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog gyda’r diweddaraf am ein gweithgareddau, ymdrechion codi arian, sgyrsiau a digwyddiadau hyfforddi.
- Mae rhai busnesau lleol hefyd yn cynnig gostyngiad i aelodau Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.
Gwirfoddoli
Os ydych chi wrth eich bodd yn yr awyr agored, mae’n bosib yr hoffech chi ein helpu drwy wirfoddoli gyda ni. Does dim angen unrhyw sgiliau arbennig neu gymwysterau arnoch chi.
Enghreifftiau o waith y gwirfoddolwyr hyd yn hyn
- Llenwi porthwyr a gwirio camerâu yn y goedwig
- Llwytho cofnodion o gipolygon ar Cofnod (sef Canolfan Cofnodion Amgylcheddol ar gyfer Gogledd Cymru)
- Adeiladu llociau ar gyfer anifeiliaid newydd yn y goedwig
- Gofalu am stondinau mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth
- Cynnal digwyddiadau codi arian e.e. boreau coffi, ffair sborion
- Cyfieithu dogfennau i’r Gymraeg
Busnesau lleol?
Os ydych chi’n fusnes yng Ngogledd Cymru, mae’n bosib y byddwch yn dymuno cefnogi Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog drwy gynnig y canlynol:
- gostyngiadau i aelodau
- dosbarthu ein pamffledi neu newyddlenni i’ch cwsmeriaid
- trefnu diwrnod gwirfoddoli yn y goedwig i’ch staff?
Neu bosib y gallwch chi awgrymu ffyrdd eraill o’n cefnogi ni? Buasem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Cyfryngau Cymdeithasol
Os nad ydy gwirfoddoli yn gweddu ichi, gallwch ein cefnogi ni mewn ffyrdd eraill drwy ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol a rhannu ein postiadau er mwyn hyrwyddo’r prosiect gwiwerod coch yng Nghlocaenog.
Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion
Allan yn cerdded yn y goedwig? Cymerwch ychydig funudau i gyfrannu at ein prosiect gwyddoniaeth dinasyddion.