Mae’r mapiau uchod yn dangos pa mor eang oedd dosbarthiad y wiwer goch frodorol un tro a’r lleihad mewn niferoedd erbyn hyn.
Dosbarthiad
Bu i’r niferoedd ostwng yn sylweddol ym Mhrydain ers cyflwyno gwiwerod llwyd Sciurus carolinensis) i ystadau mawr yn y 1870au.
Ers hynny, bu i boblogaeth y gwiwerod coch ym Mhrydain ostwng o oddeutu 3.5 miliwn i rhwng 120,000 i 160,000. Mae’n debyg bod y boblogaeth yn Lloegr mor isel â 20,000. Mae’r rhan fwyaf o’r gwiwerod coch yn yr Alban.
Mae Ynys Môn wedi gwaredu’r wiwer lwyd ers 2012 ac erbyn hyn mae poblogaeth o oddeutu 800 o wiwerod coch yna. Roedd peryg i’r gwiwerod coch ddiflannu’n gyfan gwbl oddi ar yr Ynys un tro gyda phoblogaeth isaf erioed o ddim ond 40. Fodd bynnag, ychydig iawn sy’n ymwybodol o’r boblogaeth o wiwerod coch yng ngogledd ddwyrain Cymru yng nghoedwig Clocaenog. Fe gafodd ei ystyried fel y cadarnle olaf i wiwerod coch yng Nghymru ar un adeg.
Pam bod gwiwerod coch yn bwysig
Mae’r wiwer goch yn un o’n mamaliaid bach brodorol fwyaf eiconig sy’n ein hatgoffa o’r straeon yn ystod ein plentyndod fel Squirrel Nutkin yn y llyfrau Beatrix Potter.
Mae gwiwerod coch yn rhan annatod o ecoleg coedwigoedd conifferaidd fel enghraifft gan eu bod yn gwasgaru hadau coed a ffyngau.
Os na fyddwn yn mynd ati i ddiogelu’r gwiwerod coch, mae’n debyg y byddwn yn colli’r poblogaethau o wiwerod coch presennol yn y dyfodol agos. Byddai hyn yn golygu mai’r wiwer goch fuasai’r mamal brodorol cyntaf i ddiflannu ers yr afanc yn ystod y 12fed ganrif.
Wiwerod coch a’r gyfraith
Mae’r wiwer goch yn rhywogaeth warchodedig ym Mhrydain ac mae cyfeiriad atyn nhw yn Atodlen 5 a 6 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (WCA) wedi’i ddiwygio gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’n drosedd i ladd neu niweidio gwiwer goch ar bwrpas, neu ddifrodi neu chwalu unrhyw strwythur neu le mae’r wiwer goch yn ei ddefnyddio fel lloches neu warchodfa yn fyrbwyll. Mae hefyd yn drosedd i aflonyddu gwiwer goch pan maen nhw mewn lloches neu warchodfa. Felly mae’n rhaid ichi fod yn ofalus o ran pryd a lle y byddwch yn torri unrhyw goed.
Pam fod gwiwerod coch mewn peryg
Mae’r wiwer goch wedi’i ddynodi’n swyddogol fel rhywogaeth mewn peryg yn Lloegr a Chymru ac yn agos o fod mewn peryg yn yr Alban.
Y prif achos dros eu lleihad mewn niferoedd ydy dyfodiad y wiwer lwyd o America. Mae tri phrif reswm pam fod y gwiwerod llwyd yn fygythiad i’r gwiwerod coch.
- Mae gwiwerod llwyd yn cludo clefyd, Parapoxvirus, sydd ddim i’w weld yn effeithio ar eu hiechyd nhw ond mae’n aml yn lladd gwiwerod coch.
- Mae mes aeddfed yn ffynhonnell bwyd egni uchel defnyddiol i wiwerod coch. Dydyn nhw methu treulio mes anaeddfed gan fod nifer sylweddol o danninau ynddyn nhw. Mae modd i wiwerod llwyd dreulio mes anaeddfed ac maen nhw’n disbyddu’r cnwd cyn iddyn nhw aeddfedu gan adael ychydig iawn ar ôl i’r gwiwerod coch.
- Pan fo wiwerod coch dan bwysau, dydyn nhw ddim yn bridio mor aml.
Ffactor sylweddol arall yng ngostyngiad y gwiwerod coch ydy’r colled mewn coetir yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae traffig ar y ffordd ac ysglyfaethwyr yn fygythiadau hefyd.
Felly beth nesaf?
Y Cynllun Adfer Natur Cymru
Nod y cynllun ydy cefnogi bioamrywiaeth yng Nghymru, gan ddiogelu rhywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau.
Cynllun Gweithredu Adfer Natur
Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru
Nod Fforwm Gwiwerod Cymru (WSF) a Phartneriaeth Gwiwerod Cymru (WSP) ydy cynnal gwaith diogelu gwiwerod coch a rheoli gwiwerod llwyd effeithiol yng Nghymru.
Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru
Cynllun Gweithredu Rheoli Gwiwerod Llwyd Cymru
Mae’r cynllun yn ymwneud â gweledigaeth a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru i’r ymyraethau a gweithrediadau gofynnol i leihau effaith wiwerod llwyd ar boblogaethau gwiwerod coch a choetiroedd.
Coedwig Clocaenog : cynefin annatod
Dydy Gwiwerod Coch ddim bob tro’n goch!
Maint – hyd corff o 22cm ar gyfartaledd, cynffon bron cyn hired a phwysau o oddeutu 300g.
Lliw – fe allai amrywio o fod yn oren/coch llachar, brown neu hyd yn oed llwydaidd
Clustiau – mae gwiwerod coch yn adnabyddus am eu tusw o flew hir o amgylch eu clustiau ond maen nhw’n colli’r blew hwnnw erbyn yr haf
Mae’r sleidiau isod i gyd yn lluniau o Wiwerod Coch. Fe welwch fod eu hedrychiad yn gallu amrywio.
Cwestiynau Cyffredin
Mae’r goedwig ond yn gartref i boblogaeth fach o wiwerod coch ac maen nhw’n swil dros ben. Mae’n bosib y gwelwch chi gip o bell os ydych chi’n troedio’r goedwig ond mae’n annhebygol iawn a dweud y gwir.
Os hoffech chi weld gwiwerod coch, gallwch ymweld â Safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Formby, Glannau Merswy lle mae Taith Gerdded Gwiwerod. Mae’r gwiwerod yno gymharol ddof ac mae’n debygol iawn y gwelwch chi’r gwiwerod yno.
Mae gwiwerod coch yn bwyta hadau, cnau, mwyar a ffyngau ond hadau conwydd fel pefrwydd a phinwydd gan amlaf. Sbriwsen Norwy, Sbriwsen Sitca, Llarwydd a Phinwydd sydd yng Nghoedwig Clocaenog yn bennaf ac mae’n gynefin delfrydol ar gyfer gwiwerod coch.
Nac ydyn, dydy gwiwerod coch ddim yn gaeafgysgu ond maen nhw’n llai gweithredol yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hadau coniffer i’w gweld yn y gaeaf ac mae’r gwiwerod yn cadw cyflenwad bwyd wrth gefn i’w cynnal pan nad oes yna fwyd ffres ar gael.
Yr unig famaliaid sydd wir yn gaeafgysgu ym Mhrydain ydy draenogod, pathewod ac ystlumod.