Mae’r sleidiau isod i gyd yn dangos Gwiwerod Llwyd.
Gwiwerod Llwyd
Maint – hyd corff 24-28.5cm, cynffon bron yr un maint ac yn pwyso 400-650g
Lliw – Côt arian-llwyd gydag wyneb a thraed brownaidd a’i du isaf yn olau, gyda golwg cochlyd weithiau
Clustiau – yn wahanol i wiwerod coch, does ganddyn nhw ddim tusw o ffwr o amgylch eu clustiau
Cynffon – mae pob darn gwallt unigol y cynffon yn amryliw felly mae’n creu effaith eurgylch
Gwiwer goch nodweddiadol
- Ffwr lliw browngoch ond fe allai amrywio gan fod rhai o’r gwiwerod yn edrych yn llwydfrown
- Maen nhw’n llawer llai na’r wiwer lwyd
- Mae ganddyn nhw dusw o flew o amgylch eu clustiau sy’n datblygu i fod yn duswau sylweddol yn ystod y gaeaf (maen nhw’n colli’r ffwr amgylch eu clustiau yn yr haf)
- Mae gwallt eu cynffonau’n lliw unffurf
- Creaduriaid y goedwig h.y. yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y coed
Gwiwer lwyd nodweddiadol
- Ffwr llwyd, ond mae gan rai ffwr coch ar hyd eu cefn ac ar eu traed
- Yn llawer mwy nag ein gwiwer goch frodorol
- Dim tusw o ffwr o amgylch eu clustiau
- Mae darnau gwallt eu cynffon yn amryliw felly mae’n creu effaith ‘eurgylch’
- Maen nhw’n treulio tri chwarter eu diwrnod yn fforio ar y ddaear yn y goedwig
Ydy hi’n wiwer goch neu lwyd?
Cafodd holl luniau’r sioe sleidiau eu tynnu yng nghoedwig Clocaenog gan ein camerâu llwybr . Mewn golau da, mae’n hawdd gwahaniaethu rhwng gwiwerod coch a llwyd. Mewn golau gwael, yn enwedig pan mae’r camerâu yn newid i fod yn ddu a gwyn, gall fod yn anodd eu gwahaniaethu.
Rhowch gynnig ar y cwis Adnabod i weld a allwch chi adnabod gwiwerod coch a llwyd yn gywir.
Rhoi cynnig ar y Cwis Adnabod
- Llwyd – côt llwyd, dim tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, effaith eurgylch ar ei chynffon
- Coch – côt frowngoch, tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, ei chynffon yn un lliw
- Llwyd – côt lwyd, dim tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, gallwch weld pennau gwyn ar wallt ei chynffon. Hefyd mae’n anifail eithaf mawr
- Llwyd – côt lwyd, dim tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, effaith eurgylch ar ei chynffon
- Coch – tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, dim effaith eurgylch ar ei chynffon
- Llwyd – côt lwyd, dim tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, effaith eurgylch ar ei chynffon
- Coch – dim effaith eurgylch ar ei chynffon
- Llwyd – dim tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, effaith eurgylch ar ei chynffon. Hefyd yn anifail eithaf mawr
- Coch – tusw o ffwr o amgylch ei chlustiau, dim effaith eurgylch ar ei chynffon
- Coch – methu gweld ryw lawer ond does dim effaith eurgylch ar ei chynffon felly mae’n debyg mai gwiwer goch ydy hi
Mae lluniau’r camerâu llwybr o ansawdd gwael yn aml ond fe all gwybodaeth ychwanegol ein helpu i adnabod y gwiwerod. Weithiau bydd gennym ni gyfres o luniau o’r un anifail wedi’u cymryd ychydig eiliadau ar ôl ei gilydd a bydd gwahanol olygon yn help. Hefyd fe all amser y flwyddyn ein helpu i benderfynu ydy’r wiwer yn oedolyn coch neu’n wiwer lwyd ifanc neu a ydy tusw o ffwr o amgylch eu clustiau’n debygol i wiwerod coch.
Gwiwerod Llwyd a’r Gyfraith
Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n dal un, mae’n rhaid ichi ei lladd yn drugarog. Ni ddylech chi adael y wiwer yn rhydd gan y byddai hyn yn anghyfreithlon. Mae’n bosib y bydd unrhyw un sy’n gwneud yr uchod, sy’n achosi’r uchod neu sy’n caniatáu unrhyw un o’r gweithredoedd uchod yn troseddu.
Rheoli Gwiwerod llwyd
Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir eraill yr ardal i reoli niferoedd y gwiwerod llwyd yn ac o amgylch Coedwig Clocaenog. Mae aelodau / gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog sy’n cynnal y gwaith pwysig hwn wedi derbyn yr hyfforddiant priodol i gyflawni hyn yn ddiogel.
Prif nod Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ydy gweithredu er mwyn diogelu gwiwerod coch rhag datblygiad gwiwerod llwyd yn ac o amgylch y goedwig. Byddwn yn cyflawni gweithgareddau rheoli yn yr ardaloedd hynny yn y goedwig lle mae’n debyg y bydd y ddwy rywogaeth yn cwrdd, neu mewn mannau lle mae’n bosib y bydd y gwiwerod llwyd yn eu defnyddio fel coridorau i gyrraedd mannau yn y goedwig lle mae’r gwiwerod coch wedi ymgartrefu ynddyn nhw.
Caiff y gweithgareddau hyn eu trefnu ar y cyd gydag a gyda chytundeb mudiadau ac unigolion eraill lle’n briodol. Nod rheoli’r gwiwerod llwyd ydy gwarchod y boblogaeth gwiwerod coch yng Nghoedwig Clocaenog. Rydym yn cyflawni gweithredoedd rheoli mewn ffordd drugarog a chan gydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol a chanllawiau ymarfer da.
Dydyn ni ddim yn ‘beio’ gwiwerod llwyd am eu heffaith nhw ar y gwiwerod coch – pobl wnaeth gludo’r rhywogaeth i Brydain o America. Fodd bynnag, mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog o’r farn y bod angen inni weithredu er mwyn amddiffyn ein gwiwerod coch eiconig sydd mewn peryg.
Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cydnabod bygythiad dirfawr datblygiad gwiwerod llwyd ar y gwiwerod coch. Fel grŵp gwirfoddol lleol, rydym yn ymroi i wneud ein rhan i warchod gwiwerod coch cymaint â phosib. Mae ein hymdrechion yma yn adlewyrchu sefyllfaoedd prif fannau eraill yng Nghymru ynghyd â gweithdrefnau strategol ehangach ym Mhrydain i warchod poblogaethau gwiwerod coch a’u cynefinoedd.
Mae gwarchod gwiwerod coch yn un o’r prif flaenoriaethau ledled y wlad a gobaith gwirfoddolwyr / aelodau Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ydy gweld Coedwig Clocaenog wedi’i adfer i’w statws blaenorol fel cadarnle i wiwerod coch yng Nghymru.
Cwestiynau Cyffredi
Mae gwiwerod coch a llwyd yn ddwy rywogaeth wahanol. Dydyn nhw ddim yn bridio gyda’i gilydd. Mae gan wiwerod llwyd ffwr frowngoch weithiau.
Y rheswm mwyaf tyngedfennol pam na all gwiwerod coch a llwyd gyd-fyw ydy bod gwiwerod llwyd yn cludo feirws o’r enw Squirrelpox neu Squirrel parapoxvirus (SQPV). Mae gwiwerod llwyd yn ddiogel rhag y feirws ond fe allan nhw ei ymledu i’r gwiwerod coch yn rhwydd.
At hyn, mae’r wiwer lwyd llawer mwy yn curo’r gwiwerod coch i gasglu bwyd.
Mae ymchwil ar waith ynghylch rheoli ffrwythlondeb gwiwerod llwyd. Gallwch ddarllen mwy ar wefan Squirrel Accord (eng).