Bu i Gyfoeth Naturiol Cymru ail-agor eu coedwigoedd ac mae ein gwirfoddolwyr wrth eu bodd o fod yn gwirio’r camerâu unwaith eto. Bu i’r Gwiwerod coch ddygymod yn dda hebddom ni gan y bu inni weld cryn dipyn o Wiwerod ifanc. Yn anffodus mae cryn dipyn o Wiwerod llwyd yma hefyd felly mae’n rhaid inni ddal ati gyda’n gwaith.