Byddai’r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog wrth eu bodd pe baech chi’n cydweithio gyda ni er mwyn dod o hyd i ardaloedd lle mae gwiwerod coch wedi ymgartrefu ynddyn nhw yng Nghoedwig Clocaenog. Rydym wedi gosod camerâu mewn rhai mannau ond dydyn nhw ddim yn gweld pob twll a chornel yn y goedwig. Fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gymryd rhan yn ein prosiect gwyddoniaeth dinasyddion.

Os ydych chi’n mentro i goedwig Clocaenog am dro bach, hoffem ichi gadw llygaid am yr arwyddion bwydo hyn:

Conau conwydd wedi’u plicio gan wiwerod

Mae’r gwiwerod yn bwydo ar gonau pefrwydd a phinwydd. Maen nhw’n plicio cennau oddi ar gonau er mwyn iddyn nhw allu bwyta’r hadau tu mewn. Maen nhw fel arfer yn eistedd am ben bonyn coeden neu foncyff i fwyta, gan adael pentwr o gennau a chreiddiau conau.

Cnau cyll hollt

Mae gwiwerod yn hollti plisg cnau cyll yn ddau, tra bod llygod a llygod y gwair yn cnoi twll cylch ynddyn nhw.

Cnau cyll wedi’u bwyta gan wiwerod (uchod) a llygod (isod)

Sut i adrodd am weld

Os welwch chi unrhyw un o’r arwyddion bwydo hyn, a’u bod yn ymddangos yn rhai diweddar (ddim yn dywyll neu wedi pydru), gofynnwn yn garedig ichi roi gwybod am y lleoliad. Yn anffodus ni fydd yn datgelu os mai gwiwer lwyd neu goch oedd yno ond fe allwn ni fynd ati i fonitro’r safle i ganfod yr ateb

Os ydych chi’n ddigon lwcus o weld gwiwer goch yn yr ardal, gofynnwn yn garedig ichi roi gwybod am hyn hefyd. Anfonwch neges gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt.

Rhannwch y lleoliad gyda ni gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau hyn:

  • Cyfesurynnau GPS (lledred/hydred)
  • Cyfeirnod grid chwe ffigwr o fap
  • Mae’r rhaglen What3Words yn well fyth. Mae’n gweithio pan fyddwch chi all-lein ac mae’n rhoi 3 gair ichi adnabod eich lleoliad o fewn ardal 3 medr.

Adrodd Golwg

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
Beth welsoch chi