Bu disgyblion ysgolion cynradd yr ardal yn cwrdd â gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ar-lein i ddysgu am y Gwiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog. Hyd yn hyn bu i ein gwirfoddolwyr gwrdd gyda disgyblion Ysgol Pant Pastynog, ym Mhrion, ac Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog. Bu’r disgyblion wrthi’n canfod mwy am y Gwiwerod Coch a bu iddyn nhw lunio rhestr o gwestiynau ymlaen llaw. Roedd yn braf manteisio ar y cyfle i rannu ein gwybodaeth a gweld pa mor awyddus oedd y plant i ddysgu am y Gwiwerod. Mae pob un ohonom ni’n dymuno gweld Gwiwer Goch ac felly mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn hyd yn oed yn fwy penderfynol o lwyddo gyda’u menter.
- Dyma ddetholiad o gwestiynau’r plant:
- Sut ydym ni’n medru gwahaniaethu rhwng Gwiwerod llwyd a Gwiwerod coch?
- Sut allan nhw helpu?
- Sut ydym ni’n tynnu lluniau o’r Gwiwerod yn y goedwig?
- Lle gallan nhw weld y Gwiwerod?
- Ydy Gwiwerod coch yn beryglus?
- Pam fod yna fwy o Wiwerod llwyd na Wiwerod coch?
Rydym yn gobeithio y gallwch chi ganfod yr atebion i’r rhan fwyaf o’r cwestiynau hyn ar y wefan. Mae croeso ichi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiwn ac fe wnawn ni ei ychwanegu at ein Cwestiynau Cyffredin.
Byddwn yn anfon lluniau o’r anifeiliaid fydd yn ymddangos ar y porthwyr. Mae’r gwaith cartref ar gyfer yr hanner tymor yn ymwneud â Gwiwerod, felly cadwch lygaid ar waith Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog i weld y diweddaraf.
Os ydych chi’n fusnes neu grŵp lleol ac yn dymuno noddi camerâu llwybr yng Nghoedwig Clocaenog, cysylltwch gyda ni.