A poem written by Dyfan Mael Phillips, performed by Ysgol Carreg Emlyn with music by Ioan Rees (local young composer).
The song can be found on Ioan’r albym ‘Caneuon Llond Stafell’.
Gwiwerod Coch Clocaenog
1.Ucheldir sydd yn gwarchod,
yn gastell coed i’r criw.
yn ynys deg, yn gofnod,
am lwyth sy’n mynnu byw.
Wrth frwydro yn arwrol,
drwy gadw ffydd a rás.
Goresgyn ymerodrol,
gan lwyth o lwydaidd cas.
Cytgan;
Er bychain yw eu nifer,
rhaid dathlu, gweiddi’n groch.
Yn danbaid ac yn dyner,
yr annwyl wiwer goch.
2.Gwynebu her a cholled,
prinhau yw’r coch a’u lliw.
Heb ildio, talu’r dyled,
Craduriaid dewr a thriw.
Er anodd yw amgyffred,
y golled, bygwth cas.
Ni lwyddwyd i gael gwared,
ar rhain, ei bri a’i blas.
Cytgan;
Er bychain yw eu nifer,
rhaid dathlu, gweiddi’n groch.
Yn danbaid ac yn dyner,
yr annwyl wiwer goch.
Cawn wersi gan wiwerod,
am gynnal ffordd o fyw.
Am warchod ein Cymreictod,
am ysbryd dynolryw.
Dymunwn hir oes wresog,
I’r olud yn ein rhwyd.
Gwiwerod Coch Clocaenog,
hoff drysor Dyffryn Clwyd.


