Arddangosfeydd Barddoniaeth yn yr Hen Lys Rhuthun
Cadwraeth yn cwrdd â chreadigrwydd: defnyddio barddoniaeth i archwilio trafferthion ein gwiwerod coch
Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog wedi ymuno â’r eco-fardd, Diana Sanders i godi ymwybyddiaeth o drafferthion gwiwerod coch Clocaenog trwy gyfrwng barddoniaeth.
Defnyddiwyd barddoniaeth ers tro byd ar gyfer gwrthsafiad, protest ac actifiaeth, ac nid yw eco-farddoniaeth yn eithriad. Mae eco-farddoniaeth yn defnyddio barddoniaeth fel math o actifiaeth amgylcheddol, i ymgysylltu â phryderon ecolegol ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth a gweithredu amgylcheddol.
Mae gwiwerod coch wedi’u dosbarthu fel rhywogaeth mewn perygl yn y DU ac maent yn brin yng Nghymru. Mae niferoedd gwiwerod coch wedi bod yn dirywio’n araf yn y DU ers i’r wiwer lwyd gael ei chyflwyno o Ogledd America ddiwedd y 1800au. Mae gwiwerod llwyd yn fwy na’r gwiwerod coch ac felly maent yn eu trechu am fwyd ac adnoddau. Maent hefyd yn gludwyr firws brech y wiwer, firws sy’n angheuol i’r gwiwerod coch.
Mae Caro Collingwood (Ceidwad Gwiwerod Coch Clocaenog) a Diana yn gobeithio y bydd rhai o’r cerddi hyn sy’n cyffwrdd â themâu llygredd sŵn, bregusrwydd y rhywogaeth trwy golli cynefinoedd, clefydau a drosglwyddir gan wiwerod llwyd, yr amgylchedd y mae’r gwiwerod yn byw ynddo ac arsylwadau o’r gwiwerod eu hunain yn helpu i godi ymwybyddiaeth o rai o’r problemau y mae gwiwerod coch yn eu hwynebu.
Bydd y cerddi hyn yn cael eu harddangos yn yr Hen Lys – Rhuthun o 21-28 Gorffennaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio i ddysgu am wiwerod coch, sut allwch chi gymryd rhan yng ngwaith yr ymddiriedolaeth ac i ddarllen rhywfaint o farddoniaeth o’r galon a ysgrifennwyd gan bobl a fynychodd weithdy ysgrifennu barddoniaeth ar ôl gwrando ar Caro yn siarad am wiwerod coch a’i gwaith gyda’r Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.

