Polisi Preifatrwydd

Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog (CRST) yn casglu data os ydych chi’n cysylltu gyda ni gydag ymholiad neu i ymaelodi gyda ni. Mae’n bosib y byddwn yn casglu’r canlynol:

  • Enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ac ati.
  • Manylion banc os byddwch yn cyflwyno taliad

Fe fyddwch chi’n cyflwyno’r rhan fwyaf o’r data byddwn ni’n ei gasglu i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn uniongyrchol. Byddwn yn casglu a phrosesu data pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cofrestru ar-lein fel aelod neu wirfoddolwr
  • Cwblhau arolwg cwsmer yn wirfoddol neu anfon adborth dros e-bost.
  • Defnyddio neu fwrw golwg ar ein gwefan drwy gwcis eich porwr.

Bydd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn casglu’ch data er mwyn inni wneud y canlynol:

  • Prosesu eich cais i ymaelodi a rheoli eich cyfrif
  • Eich e-bostio gyda newyddion yn achlysurol

Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn cadw eich data yn ddiogel ar ein system cyfrifiaduron er mwyn inni anfon ein newyddlen atoch chi a rheoli ein cofnodion o ran tanysgrifiadau, datganiadau Cymorth Rhodd ac ati.
Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gyda cyrff trydydd parti er dibenion marchnata. Dim ond ein Hymddiriedolwyr fydd yn gweld yr wybodaeth.
Os byddwch yn dadymaelodi byddwn ond yn cadw eich manylion pan fo’n ofynnol, h.y. gan Gyllid Thollau EM ar gyfer Cymorth Rhodd. Os ydy eich aelodaeth yn dod i ben a dydych chi ddim yn ei adnewyddu, byddwn yn trin eich manylion personol yr un fath.

Hoffai Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog ofalu eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch hawliau o ran diogelu data. Mae pob defnyddwyr yn meddu ar yr hawliau canlynol:

Yr hawl i fanteisio ar ddata – Mae hawl gennych chi i holi Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro data – Mae hawl gennych chi i ofyn i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog am gywiro unrhyw ddata rydych yn credu sy’n anghywir. Mae hefyd hawl gennych chi i ofyn i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog am gwblhau’r wybodaeth rydych yn credu sy’n anghyflawn.

Yr hawl i ddileu data – Mae hawl gennych chi i ofyn i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog am ddileu eich data personol, o dan amodau penodol.

Yr hawl i atal prosesu data – Mae hawl gennych chi i ofyn i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog am beidio â phrosesu eich data personol, o dan amodau penodol.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu data – Mae hawl gennych chi i wrthwynebu Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog rhag prosesu eich data personol, o dan amodau penodol.

Yr hawl i symud data – Mae hawl gennych chi i ofyn i Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog i drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i fudiad arall, neu’n uniongyrchol ichi, o dan amodau penodol.

Os ydych chi’n cyflwyno cais, mae’n rhaid inni ymateb ichi ymhen mis. Os hoffech chi ymarfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch gyda ni yn defnyddio ein ffurflen gyswllt

Mae cwcis yn ffeiliau testun ar eich cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth safonol ar y rhyngrwyd ynghyd â gwybodaeth am ymddygiad ymwelwyr. Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefannau, mae’n bosib y byddwn yn casglu gwybodaeth gennych chi yn awtomatig.

I wybod mwy, ewch i allaboutcookies.org.

Sut ydym ni’n defnyddio cwcis?

Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog yn defnyddio cwcis mewn ystod o wahanol ffyrdd i wella eich profiad ar ein gwefan, fel:

  • Gofalu eich bod wedi mewngofnodi
  • Deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan

Pa fath o gwcis ydym ni’n eu defnyddio?

Mae sawl gwahanol fath o gwcis, fodd bynnag rydym yn defnyddio’r canlynol ar ein gwefan ni:

Cwcis Hanfodol

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol er mwyn ichi allu pori ein gwefan a defnyddio’i nodweddion. Heb y cwcis hyn, ni fuasem yn gallu cynnig gwasanaethau fel basgedi siopau ac e-filio.

Cwcis Perfformiad

Mae’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan – fel enghraifft, pa dudalennau rydych yn ymweld â nhw fwyaf. Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r data hwn i optimeiddio ein gwefan a gofalu ei fod yn haws ichi ei ddefnyddio. Dydy’r cwcis hyn ddim yn casglu data fydd yn datgelu pwy ydych chi. Mae’r holl wybodaeth y mae’r cwcis hyn yn ei chasglu yn ddata cyffredinol felly mae’n anhysbys.

Sut i reoli cwcis

Gallwch ddewis opsiwn i beidio â derbyn cwcis ar eich porwr, fodd bynnag, mewn rhai achosion, ni fydd rhai nodweddion ein gwefan yn gweithio os byddwch chi’n gwneud hyn.