Crwydro a Mwydro
Dewch i ymuno am dro a sgwrs â Cheidwad Gwiwerod Coch Clocaenog lle gallwch ddysgu popeth am wiwerod coch Clocaenog a’r prosiect mamaliaid hudolus.
Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM gyda nifer cyfyngedig o leoedd (cyntaf i’r felin). Cofrestrwch trwy’r ddolenn Eventbrite.
Fedrwch chi gymeryd sylw o’ch ebost cyn dechrau allan i’r digwyddiad yma os gwelwch yn dda. Mae Coedwig Clocaenog yn goedwig ucheldir ac mae’r tywydd yn medru bod yn hynod gyfnewidiol, mi mae na bosibilrwydd y bydd rhaid dileu gyda byr rybudd os yw cyflwr y tywydd yn golygu byddai’n anniogel i gynnal y daith gerdded.
Bydd y daith gerdded yn cychwyn o faes parcio:
- Bod Petryal – Google maps
- SJ 03657 51166
- What3Words: tomb.revamped.automate
Bydd y daith gerdded a’r sgwrs yn cychwyn yn brydlon am 10AM, felly ceisiwch gyrraedd 10 i 15 munud yn gynnar.
Dewch mewn esgidiau addas (esgidiau cerdded yn ddelfrydol), a gwisgo ar gyfer y tywydd.
NI ddarperir lluniaeth felly dewch â chymaint o fwyd a dŵr ag sydd ei angen am ychydig oriau y tu allan. Nid oes toiledau yn y maes parcio, mae’r cyfleusterau agosaf yn Rhuthun, sy’n daith 15 munud mewn car.
Mae’r taith tua 3.4km ac yn eitha gwastad gyda ambell allt bychan. Byddwn yn aros yn rheolaidd am arsylwadau a thrafodaethau. Dylech ddisgwyl i’r daith gerdded a’r sgwrs gymryd rhwng dau awr a tri awr. Bydd y ddolen gerdded i gyd ar drac coedwigaeth graean ac felly mae’n hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau.Rhaid i blant fod yng nghwmni rhieni/gwarcheidwaid.
