Penwythnos diwethaf, aeth pedwar o wirfoddolwyr ac aelodau pwyllgor CRST i ymweld â Sw Mynydd Cymru i gwrdd â Tom, sy’n cadw Wiwer Goch a Bele. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn am warchod y ddwy rywogaeth brydferth sydd mewn perygl. Mae Sw Mynydd Cymru yn hollbwysig i oroesiad y ddwy rywogaeth gan eu bod yn rhedeg rhaglen fridio sy’n galluogi ailgyflwyno wiwerod coch a bele newydd i’r gwyllt. Yn wir, maen nhw’n yn cynnal y llyfr bridio ar gyfer pob wiwer goch sy’n cael eu bridio mewn caethiwed yn y wlad hon. Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i gael wiwerod o’r sw sydd wedi’u rhyddhau i Goedwig Clocaenog, ac yn fuan iawn, dylai pedair arall ymuno â hwy.
Share this post